Beth ywiechyd menywod?
< Yn ôl i'r hafan

Felly, dyma bopeth ti angen gwybod…

Mae Beth yw Iechyd Menywod? yma i dy helpu i ddysgu mwy am iechyd menywod mewn ffordd glir a chyfeillgar.

Pan fyddwn yn siarad am “iechyd menywod”, rydym mewn gwirionedd yn siarad am bynciau iechyd sy’n effeithio ar bobl sy’n cael eu geni’n fenywod. Gwyddom nad yw pawb sy’n profi’r pethau hyn yn uniaethu fel merch neu fenyw, ac mae hynny’n iawn. Mae’r lle hwn ar gyfer pawb. P’un a yw’r pynciau hyn yn effeithio arnat ti’n uniongyrchol, neu os wyt ti eisiau deall mwy am y bobl o dy gwmpas, mae croeso i ti yma.

Crëwyd y dudalen hon gan dimau GIG Cymru, gan weithio gyda nyrsys ysgol ac, yn bwysicaf oll, pobl ifanc ledled Cymru. Y farn yw nad yw iechyd menywod yn cael ei drafod ddigon, a gall fod yn anodd dod o hyd i wybodaeth y galli di ymddiried ynddi.

Yr ateb? Un lle hawdd i gael atebion clir, wedi’i wneud yn arbennig ar gyfer pobl ifanc. Gwybodaeth sy’n fyr, yn onest, ac yn hawdd ei deall, heb unrhyw iaith feddygol lletchwith. Ac wrth gwrs, gwybod bod popeth yn dod o ffynhonnell ddibynadwy.

Felly crëwyd y dudalen hon ar dy gyfer di.

Gall iechyd newid llawer wrth i ti dyfu i fyny, ac mae’n normal teimlo’n ddryslyd neu’n ansicr weithiau. Ond gall dysgu am dy gorff, a phrofiadau pobl eraill, dy helpu i deimlo’n fwy hyderus a gwybodus.

Nid oes angen i ti wybod popeth. Dechreua fan hyn.

Dysga fwy yn ein hadnoddau dibynadwy isod.

Question mark Question mark Question mark